Y Pwyllgor Cyllid

Finance Committee

 

 

 

 

 

 

 

Bae Caerdydd / Cardiff Bay

 Caerdydd / Cardiff

CF99 1NA

                                                           

                             

26 Ionawr 2015

Annwyl Syr / Madam

 

Ymgynghoriad ar ymchwiliad i ystyried pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

Mae Pwyllgor CyllidCynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i ystyried ehangu pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (”yr Ombwdsmon”). Os bydd y dystiolaeth yn cefnogi'r syniad o ehangu pwerau'r Ombwdsmon, gall y Pwyllgor ystyried cyflwyno Bil Pwyllgor. Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad ar gael ar wefan y Pwyllgor.

 

Cefndir

Sefydlwyd rôl yr Ombwdsmon gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005.

Mae Nick Bennett, yr Ombwdsmon presennol, a'i ragflaenydd, Peter Tyndall, wedi galw am newidiadau i'r Ddeddf yn ystod eu rôl. Mae pum prif faes wedi'u hamlygu ar gyfer newidiadau deddfwriaethol posibl i gryfhau rôl yr Ombwdsmon, gan gynnwys:

 

§  pwerau ar ei liwt ei hun- byddai hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i gychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun heb orfod derbyn cwyn am fater yn gyntaf;

§  cwynion llafar- ar hyn o bryd, dim ond cwynion ysgrifenedig y gall yr Ombwdsmon eu derbyn;

§  ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus - byddai hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i fod â rôl o ran rhoi cyngor ar ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus;

§  awdurdodaeth yr Ombwdsmon(i gynnwys gwasanaethau iechyd preifat) - byddai hyn yn ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon gan ei alluogi / galluogi i ymchwilio pan fo claf wedi derbyn gofal iechyd preifat (wedi'i ariannu gan y claf ac nid y GIG) ar y cyd â gofal iechyd cyhoeddus; a

§  chysylltiadau â'r llysoedd- cael gwared ar y bar statudol a fyddai'n caniatáu i'r Ombwdsmon ystyried achos lle mae posibilrwydd y bydd yn cael ei adolygu gan lys, tribiwnlys neu broses arall (byddai hyn yn rhoi cyfle i achwynwyr benderfynu pa lwybr sydd fwyaf priodol iddynt).

 

Mae'r Ombwdsmon wedi cyflwyno papuri'r Pwyllgor Cyllid sy'n rhoi manylion a gwybodaeth gefndir bellach am y cynigion hyn. Er mwyn helpu gyda'r ymchwiliad, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau yn Atodiad A.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu'n Saesneg gan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.

 

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig, (nid ar ffurf dogfen PDF, yn ddelfrydol) i SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cyllid

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 20 Mawrth 2015.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn ymlaen at unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gyfrannu at yr adolygiad.  Bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael, gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Fel arall, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael ar gais drwy gysylltu â'r Clerc (Leanne Hatcher 0300 200 6343).

 

Yn gywir

 

 

Jocelyn Davies AC

Cadeirydd


 

Atodiad A

Cwestiynau ymgynghori

 

1. Beth yw eich barn ar effeithiolrwydd Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005?

 

Ymchwiliadau 'ar ei liwt ei hun'

 

2. Ar hyn o bryd, dim ond os caiff cwyn ei gwneud iddo y caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i'r mater. Beth yw eich barn ar bwerau ymchwilio 'ar ei liwt ei hun', a fyddai'n galluogi'r Ombwdsmon i gychwyn ei ymchwiliadau ei hun heb orfod derbyn cwyn am fater yn gyntaf. Eglurwch eich ateb.

 

3. A oes gennych unrhyw bryderon y gallai pwerau ymchwilio 'ar ei liwt ei hun' arwain at orgyffwrdd cyfrifoldebau'r Ombwdsmon â chyfrifoldebau sefydliadau eraill?  Sut y gellir rheoli hyn?

4. A oes gennych farn ar y buddion a'r costau ariannol tebygol yn sgil rhoi pwerau ymchwilio 'ar ei liwt ei hun' i'r Ombwdsmon?

 

Cwynion ar lafar

 

5. Ar hyn o bryd, dim ond cwynion ysgrifenedig y gall yr Ombwdsmon eu derbyn. Beth yw eich barn ar yr Ombwdsmon yn gallu derbyn cwynion ar lafar? Eglurwch eich ateb.

 

6. Pa fathau eraill o ohebiaeth ddylai fod yn dderbyniol (e.e. e-bost, ffurflen ar y we, negeseuon testun)?

7. A oes gennych farn ar fuddion a chostau ariannol y ddarpariaeth hon?

 

Ymdrin â chwynion mewn gwasanaethau cyhoeddus

 

8. Ar hyn o bryd, nid oes cysondeb yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn ymdrin â chwynion.  Mae mabwysiadu'r polisi cwynion enghreifftiol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn wirfoddol.   Beth yw eich barn ar yr Ombwdsmon yn paratoi polisi cwynion enghreifftiol y byddai'n ofynnol i gyrff cyhoeddus ei fabwysiadu? Eglurwch eich ateb.

 

9. A oes gennych farn ar fuddion a chostau ariannol y ddarpariaeth hon?

 

Awdurdodaeth yr Ombwdsmon

 

10. Beth yw eich barn gyffredinol ar awdurdodaeth gyfredol yr Ombwdsmon?

 

11.   Ar hyn o bryd, gall yr Ombwdsmon ymchwilio i ofal iechyd preifat sydd wedi'i gomisiynu gan y GIG. Hoffai'r Ombwdsmon ehangu'r awdurdodaeth fel y gall ymchwilio i fater pan fo claf wedi derbyn gofal iechyd preifat (wedi'i ariannu gan y claf ac nid y GIG) ar y cyd â gofal iechyd cyhoeddus.  Byddai hyn yn caniatáu i'r broses gwyno ddilyn y dinesydd yn hytrach na'r sector. Beth yw eich barn ar ehangu awdurdodaeth yr Ombwdsmon fel hyn?

 

12. Sut y credwch y dylid ariannu'r gwaith o ymchwilio i gwynion ynghylch gofal iechyd preifat? (Ymhlith y posibiliadau mae cyflwyno ardoll, codi tâl fesul achos neu beidio â chodi unrhyw dâl.)

 

13. A oes gennych farn ar fuddion a chostau ariannol y ddarpariaeth hon?

 

Cysylltiadau â'r llysoedd

 

14. Beth yw eich barn ar gael gwared ar y gwaharddiad statudoler mwyn caniatáu i'r Ombwdsmon ystyried achos sydd wedi cael ei adolygu gan lys, neu lle mae posibilrwydd y bydd yn cael ei adolygu gan lys, tribiwnlys neu broses arall? (h.y. byddai hyn yn rhoi cyfle i achwynwyr benderfynu pa lwybr sydd fwyaf priodol iddynt)

 

15. Beth yw eich barn ar yr Ombwdsmon yn gallu cyfeirio achosion at y Llysoedd i gael penderfyniad ar bwynt cyfreithiol?

 

16. A oes gennych farn ar fuddion a chostau ariannol y ddarpariaeth hon?

 


 

Materion eraill

 

17. A oes gennych unrhyw enghreifftiau penodol lle gallai rhoi'r pwerau ychwanegol arfaethedig i'r Ombwdsmon fod wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn sicrhau casgliad llwyddiannus i fater?

 

18. Mae Atodlen 3o Ddeddf 2005 yn rhoi rhestr o awdurdodau sydd o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon i ymchwilio i gwynion. A fyddech cystal â darparu manylion am unrhyw gyrff/sefydliadau eraill y dylid eu cynnwys yn y rhestr hon?

 

19. Pe byddai'r Ombwdsmon yn cael rhagor o bwerau mewn Bil/Deddf newydd, pa bryd y dylid gwerthuso effaith y ddeddfwriaeth hon?

 

20. Pa ganlyniadau anfwriadol a allai ddigwydd o ganlyniad i droi’r darpariaethau hyn yn ddeddfwriaeth, a pha gamau y gellid eu cymryd i ymdrin â’r canlyniadau hyn?

 

21. Pa ffactorau y dylid eu mesur wrth lunio'r dadansoddiad cost a budd ar gyfer y ddeddfwriaeth hon os daw'n gyfraith?

 

22.  A oes gennych unrhyw sylwadau ar y materion a ganlyn:

§  Awdurdodaeth – dros amser, mae newidiadau i'r setliad datganoli wedi arwain at gynnwys meysydd newydd yn yr awdurdodaeth, a ddylid ystyried cynnwys cyrff eraill yn awdurdodaeth yr Ombwdsmon;

§  Argymhellion a chanfyddiadau - a ddylai argymhellion yr Ombwdsmon i gyrff cyhoeddus fod yn orfodol. Byddai hyn yn golygu na chaiff cyrff benderfynu gwrthod y canfyddiadau;

§  Amddiffyn y teitl - bu gormodedd o gynlluniau yn galw eu hunain yn ombwdsmyn, yn aml heb fodloni meini prawf allweddol y cysyniad, fel annibynniaeth ar y rhai mewn awdurdodaeth a bod yn rhydd i'r achwynydd. A ddylai unrhyw un sy'n bwriadu defnyddio'r teitl ombwdsmon gael cymeradwyaeth yr Ombwdsmon;

§  Cod ymddygiad cwynion – byddai'n well gan yr Ombwdsmon ganolbwyntio ar yr elfen o'i waith sy'n ymdrin â defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau, yn hytrach na phenderfyniadau awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned. Er bod gweithdrefnau datrysiad lleol yn bodoli a'u bod wedi cael eu mabwysiadu gan 22 o awdurdodau lleol, ceir amrywiad wrth ymarfer. 

23. A oes gennych farn ar unrhyw agwedd ar ddiwygiadau arfaethedig i'r sector cyhoeddus neu ddiwygiadau yn y dyfodol a fyddai'n effeithio ar rôl yr Ombwdsmon?

24.  A oes gennych unrhyw faterion neu bryderon eraill ynghylch y Ddeddf bresennol, ac a oes unrhyw feysydd eraill y mae angen eu diwygio neu eu diweddaru?